Ymgynghoriad
Rydym ni wrthi'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i gael adborth ar ddyfodol y rhwydwaith trafnidiaeth yn Ne-orllewin Cymru.
I ddweud eich dweud, darllenwch y dogfennau a llenwch yr arolwg ar-lein.
Neu, gallwch chi anfon e-bost i trafnidiaethrhanbarthol@abertawe.gov.uk
Cynllun drafft
Mae’r Cynllun drafft Trafnidiaeth Ranbarthol (CTRh) wedi’i baratoi gan Gydbwyllgor Corfforaethol (CJC) De-orllewin Cymru, corff sydd newydd ei sefydlu ar gyfer llywodraeth leol yn y rhanbarth. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu rheolaeth strategol a gwelliant y rhwydwaith trafnidiaeth ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, ac Abertawe ar gyfer y cyfnod 2025 - 2030. Ar ôl ei gwblhau, bydd y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol newydd yn disodli'r Cydgynllun Trafnidiaeth Leol bresennol, a luniwyd yn 2015.
Nod y CTRh drafft yw gwella a rheoli’r system drafnidiaeth er mwyn:
- cefnogi twf economaidd.
- annog symudiad moddol oddi wrth ddefnyddio ceir preifat
- lleihau effeithiau amgylcheddol.
Mae’r Cynllun yn nodi ymrwymiadau i:
- ei gwneud yn haws cerdded a beicio ar gyfer teithiau lleol
- gwella bysiau a threnau fel eu bod yn fwy deniadol a chyfleus
- gwella cysylltiadau rhwng gwahanol wasanaethau trafnidiaeth
- rheoli ein rhwydwaith ffyrdd yn well
Cymryd rhan
Mae’r CTRh newydd yn berthnasol i bawb gan ei fod yn amlinellu gwelliannau i’r rhwydwaith trafnidiaeth, llwybrau, a gwasanaethau y mae llawer ohonom yn eu defnyddio bob dydd. Mae hefyd yn manylu ar ble y bydd buddsoddiad yn cael ei dargedu dros y pum mlynedd nesaf. Rydym yn annog cymaint o bobl â phosibl i roi adborth ar y gwelliannau sydd bwysicaf i chi.
Rydym yn croesawu’n arbennig adborth gan fusnesau, grwpiau cymunedol, datblygwyr, a’r rhai sy’n gweithio yn y sectorau trafnidiaeth gyhoeddus, logisteg, neu drafnidiaeth gymunedol.
Mae ein harolwg yn cynnwys cwestiynau cyflym cychwynnol y gall pawb eu llenwi, yn ogystal â chwestiynau dilynol manylach ar gyfer y rhai sydd â mwy o amser. Gallwch chi gwblhau'r rhannau sydd fwyaf perthnasol i chi.
Dogfennau
Edrychwch ar y ddogfen crynodeb o’r ymgynghoriad i gael golwg gyffredinol ar y CTRh drafft ac asesiadau cysylltiedig
Gallwch weld Crynodeb o'r Ymgynghoriad drwy ddilyn y ddolen hon.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi’r Cynllun yn llawn ar gyfer eich adolygiad manylach sy’n cynnwys:
- fframwaith polisi sy’n cynnwys 21 o bolisïau yn nodi ein huchelgais ar gyfer trafnidiaeth ar draws y rhanbarth..
- cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Ranbarthol sy’n nodi’r cynlluniau a’r ymyriadau sy’n cael eu hystyried i'w datblygu a’u hariannu dros y pum mlynedd nesaf.
- Asesiad Effaith Integredig sy’n edrych ar sut bydd y Cynllun drafft yn cyfrannu at nodau ac amcanion polisi yn ehangach.
Sylwch fod yr holl ddogfennau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Os oes angen iaith neu fformat arall arnoch, cysylltwch â’r tîm ar trafnidiaethrhanbarthol@abertawe.gov.uk
Lawrlwythiadau
-
Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Crynodeb ar gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus (PDF 703 KB)
m.Id: 37445
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Crynodeb ar gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus
mSize: 703 KB
mType: pdf
m.Url: /media/19561/cynllun-drafft-trafnidiaeth-ranbarthol-de-orllewin-cymru-2025-crynodeb-ar-gyfer-ymgynghoriad-cyhoeddus.pdf -
Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 ar gyfer Ymgynhoriad (PDF 2.45 MB)
m.Id: 37454
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 ar gyfer Ymgynhoriad
mSize: 2.45 MB
mType: pdf
m.Url: /media/19571/cynllun-drafft-trafnidiaeth-rhanbarthol-drafft-de-orllewin-cymru-ar-gyfer-ymgynhoriad.pdf -
Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 1 Geirfa (PDF 295 KB)
m.Id: 37448
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 1 Geirfa
mSize: 295 KB
mType: pdf
m.Url: /media/19564/cynllun-drafft-trafnidiaeth-ranbarthol-de-orllewin-cymru-2025-atodiad-1-geirfa.pdf -
Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 2 Cynllun Ymgysylltu (PDF 381 KB)
m.Id: 37449
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 2 Cynllun Ymgysylltu
mSize: 381 KB
mType: pdf
m.Url: /media/19565/cynllun-drafft-trafnidiaeth-ranbarthol-de-orllewin-cymru-2025-atodiad-2-cynllun-ymgysylltu.pdf -
Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 3 Canlyniadau Ymgysylltu  Rhanddeiliaid (PDF 471 KB)
m.Id: 37450
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 3 Canlyniadau Ymgysylltu  Rhanddeiliaid
mSize: 471 KB
mType: pdf
m.Url: /media/19566/cynllun-drafft-trafnidiaeth-ranbarthol-de-orllewin-cymru-2025-atodiad-3-canlyniadau-ymgysylltu-â-rhanddeiliaid.pdf -
Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 4 Manylion yr Adnodd Blaenoriaethu (PDF 890 KB)
m.Id: 37455
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 4 Manylion yr Adnodd Blaenoriaethu
mSize: 890 KB
mType: pdf
m.Url: /media/19576/cynllun-drafft-trafnidiaeth-ranbarthol-de-orllewin-cymru-2025-atodiad-4-manylion-yr-adnodd-blaenoriaethu.pdf -
Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 5 Asesiad Effaith Integredig Dros Dro Rhan 1 (PDF 3.64 MB)
m.Id: 37456
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 5 Asesiad Effaith Integredig Dros Dro Rhan 1
mSize: 3.64 MB
mType: pdf
m.Url: /media/19573/cynllun-drafft-trafnidiaeth-ranbarthol-de-orllewin-cymru-2025-atodiad-5-asesiad-effaith-integredig-dros-dro-rhan-1.pdf -
Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 5 Asesiad Effaith Integredig Dros Dro Rhan 2 (PDF 6.32 MB)
m.Id: 37457
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 5 Asesiad Effaith Integredig Dros Dro Rhan 2
mSize: 6.32 MB
mType: pdf
m.Url: /media/19574/cynllun-drafft-trafnidiaeth-ranbarthol-de-orllewin-cymru-2025-atodiad-5-asesiad-effaith-integredig-dros-dro-rhan-2.pdf -
Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 6 Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol (PDF 1.50 MB)
m.Id: 37447
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Drafft Trafnidiaeth Ranbarthol De Orllewin Cymru 2025 Atodiad 6 Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol
mSize: 1.50 MB
mType: pdf
m.Url: /media/19563/cynllun-drafft-trafnidiaeth-ranbarthol-de-orllewin-cymru-2025-atodiad-6-cynllun-cyflawni-trafnidiaeth-rhanbarthol.pdf
Digwyddiadau
I gael rhagor o wybodaeth a siarad â'r tîm, galwch draw i un o'n digwyddiadau galw heibio.
Digwyddiadau anffurfiol yw'r rhain, ac mae croeso i chi alw heibio unrhyw bryd. Bydd tîm y prosiect yno i egluro’r cynigion ac i ateb eich cwestiynau.
Copïau cyfeirio
Bydd copïau cyfeirio o'r dogfennau a fersiynau papur o'r ffurflen adborth ar gael mewn lleoliadau lleol.
Byddwn yn cyhoeddi rhestr o leoliadau yn fuan iawn - gwiriwch yn ôl am fanylion.
Y camau nesaf
I ddweud eich dweud, darllenwch y dogfennau uchod a llenwch yr arolwg ar-lein.
Adolygu adborth - Bydd eich mewnbwn yn cael ei adolygu a'i ddefnyddio i lunio'r Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol derfynol.
Cyhoeddi - Bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn Haf 2025, yn dilyn y cymeradwyaethau perthnasol.