Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) De-orllewin Cymru
Mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru, sef corff newydd ar gyfer llywodraeth leol yn y rhanbarth, yn paratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd ar gyfer de-orllewin Cymru.
Beth yw'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol?
Bydd y CTRh yn arwain y ffordd y caiff y rhwydwaith trafnidiaeth rhanbarthol ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe ei reoli a'i wella yn ystod y cyfnod 2025 - 2030.
Unwaith y caiff ei fabwysiadu, bydd y CTRh newydd yn disodli’r Cydgynllun Trafnidiaeth Lleol a baratowyd yn 2015.
Bydd y CTRh newydd yn nodi sut y caiff polisi cenedlaethol, fel y nodir gan Lywodraeth Cymru yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ei gyflawni yn ein rhanbarth. Mae’n gyfle i ddatblygu polisïau trafnidiaeth rhanbarthol a nodi ymyriadau a fydd yn gwella sut mae pobl yn teithio a sut mae nwyddau’n cael eu cludo, yn ogystal â mynd i’r afael ag anghenion penodol Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Ymgynghoriad Cyhoeddus Haf 2024
Yn ystod haf 2024 cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch datblygu'r CTRh. Diolch i’r rhai a oedd yn gallu cymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy lenwi'r arolwg ar-lein neu anfon sylwadau drwy e-bost. Cawsom 818 o arolygon wedi'u cwblhau, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd trafnidiaeth i bobl ar draws y rhanbarth. I ddysgu mwy am y prif adborth a gafwyd, gallwch weld y Crynodeb o'r Canfyddiadau.
Bydd ymgynghoriad arall yn cael ei gynnal yn gynnar yn 2025, lle bydd pawb yn cael cyfle i adolygu drafft o'r CTRh sy'n cael ei ddatblygu a'i ddogfennau ategol.