Hepgor gwe-lywio

Yr Achos dros Newid ar gyfer Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) newydd ar gyfer De-orllewin Cymru.

I ddweud eich dweud cwblhewch ein harolwg ar-lein isod erbyn dydd Llun 26 Awst:

Beth yw'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol?

Mae'r CTRh newydd yn cael ei baratoi gan y Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CJC) ar gyfer rhanbarth De Orllewin Cymru, corff newydd ar gyfer llywodraeth leol yn y rhanbarth. Bydd yn arwain y ffordd y caiff y rhwydwaith trafnidiaeth rhanbarthol ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe ei reoli a'i wella yn ystod y cyfnod 2025 - 2030. Unwaith y caiff ei fabwysiadu, bydd y CTRh newydd yn disodli’r Cydgynllun Trafnidiaeth Lleol a baratowyd yn 2015. 

Bydd y CTRh newydd yn nodi sut y caiff polisi cenedlaethol, fel y nodir gan Lywodraeth Cymru yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ei gyflawni yn ein rhanbarth. Mae’n gyfle i ddatblygu polisïau trafnidiaeth rhanbarthol a nodi ymyriadau a fydd yn gwella sut mae pobl yn teithio a sut mae nwyddau’n cael eu cludo, tra’n mynd i’r afael ag anghenion penodol Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. 

Bydd yn ystyried yr hyn y mae angen inni ei wneud i helpu i leihau’r angen i deithio, caniatáu i bobl a nwyddau symud yn hawdd o ddrws i ddrws ac annog pawb i wneud dewisiadau teithio doethach, tra hefyd yn cydnabod anghenion penodol ein rhanbarth, gan gynnwys cydnabod bod gan ein hardaloedd gwledig anghenion gwahanol iawn i’n trefi a’n dinasoedd. Yn bwysig, bydd hefyd yn edrych ar y ffordd orau i’r rhwydwaith trafnidiaeth gefnogi twf economaidd a chefnogi symudiad tuag at system drafnidiaeth heb unrhyw allyriadau.

Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cyd-fynd â gweledigaeth Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru o fan lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, gyda system drafnidiaeth sy’n cefnogi’r Gymraeg (amcan llesiant 2). Yn unol â'r Asesiad Effaith Integredig a gynhaliwyd o fewn y Cynllun Corfforaethol, byddwn yn asesu sut y bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol o fudd i ddiwylliant a'r iaith Gymraeg a byddwn yn cynnal asesiad o'r effaith yma. Byddwn hefyd yn ystyried y Gymraeg o safbwynt polisi ac yn croesawu eich mewnbwn.

Rydym yn eich gwahodd i ateb cyfres o gwestiynau ar sut y gall y Gymraeg ddylanwadu ar ddatblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a pha effeithiau y byddai'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn eu cael ar yr iaith Gymraeg.

Ar ba gam y mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar hyn o bryd?

Rydym yn y camau cynnar o baratoi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Yn ddiweddar, cynhyrchwyd ein dogfen 'Achos dros Newid' sy'n nodi ein dealltwriaeth o'r cyfleoedd presennol, y problemau a'r heriau ar gyfer y dyfodol ar y rhwydwaith trafnidiaeth ac yn esbonio pam fod angen gwneud rhywbeth am y rhain. Mae hefyd yn nodi gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gwell. Mae'r gwaith cynnar hwn yn bwysig i sicrhau bod gan y CTRh newydd sylfaen gadarn a'i fod yn mynd i'r afael â'r materion cywir.

I ddarllen mwy am y cam hwn o broses datblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, gallwch lawrlwytho’r adroddiad Achos dros Newid llawn (neu weler isod am fanylion ynghylch ble y gellir ei weld fel copi papur).

Mae’r gwaith hwn wedi amlygu nad yw’r rhwydwaith trafnidiaeth presennol yn gwasanaethu cymunedau a busnesau’r rhanbarth yn ddigonol. Er enghraifft, mae ein hardaloedd gwledig yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar y car, mae darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai ardaloedd yn dal i fod yn wael; nid yw cerdded a beicio, er eu bod yn cynyddu, yn ymarferol ym mhobman; mae ein rhwydwaith ffyrdd yn gyfyngedig; mae twristiaeth yn dod â phwysau trafnidiaeth tymhorol penodol; ac mae symud nwyddau yn effeithio ar ein cymunedau. Yn gyffredinol, gall y rhwydwaith trafnidiaeth presennol gyfyngu ar fynediad i gyflogaeth, cyfrannu at iechyd gwael, creu effeithiau amgylcheddol negyddol a gall gyfrannu at allgáu cymdeithasol. 

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd datblygiadau newydd, gan gynnwys cyfleoedd enfawr yn deillio o fuddsoddiadau ym Mae Abertawe ac ym mhorthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot, patrymau teithio esblygol a thechnolegau newydd i gyd yn bwysig i fynd i’r afael â nhw.

Sut gallaf ddweud fy nweud?

Yr ymgynghoriad hwn, sydd ar ddechrau proses y CTRh, yw eich cyfle i helpu i sicrhau bod y Cynllun yn canolbwyntio ar y materion rhanbarthol cywir.  Hoffem glywed pa rai o’r materion rydym wedi’u nodi yn ein gwaith cynnar yw’r rhai pwysicaf i chi (yn ogystal â gwirio a ydym wedi methu unrhyw faterion allweddol) a deall sut mae’r rhain yn effeithio arnoch chi, neu eich busnes/sefydliad. 

I gael dweud eich dweud, darllenwch y wybodaeth a ddarparwyd ac yna llenwch yr arolwg ar-lein. Fel arall, gallwch anfon e-bost at regional.transport@swansea.gov.uk.

Sicrhewch fod eich sylwadau yn ein cyrraedd erbyn hanner nos dydd Llun 26 Awst.

Bydd ymgynghoriad arall, lle bydd pawb yn cael cyfle i adolygu drafft o’r CTRh sy’n cael ei ddatblygu a’i ddogfennau ategol a gwneud sylwadau, tua diwedd 2024.

Copïau papur

Mae copïau papur o’r ffurflen adborth a'r deunyddiau ymgynghori ar gael yn:

Venue Address
Abertawe
  • Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN
  • Neuadd y Ddinas, Abertawe, SA1 4PE
Sir Benfro
  • Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP
Castell-nedd Port Talbot
  • Canolfan Ddinesig Castell-nedd, Castell-nedd, SA11 3QZ
  • Canolfan Ddinesig Port Talbot, SA13 1PJ
  • Y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan, Castell-nedd, SA11 2GG
Sir Gaerfyrddin
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman
    41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3BS
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin
    Uned 22, Rhodfa Santes Catrin, Caerfyrddin, SA31 1GA
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli
    Hwb, 36 Stryd Stepney, Llanelli, SA15 3TR
Sylwer: Mae pob dogfen ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Os oes angen iaith neu fformat arall arnoch, cysylltwch â’r tîm yn regional.transport@swansea.gov.uk

Llawrlwytho

  • Achos Dros Newid (PDF 2.30 MB)

    m.Id: 37209
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Achos Dros Newid
    mSize: 2.30 MB
    mType: pdf
    m.Url: /media/19454/achos-dros-newid-accessible-version-cymru.pdf